MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL
Y Bil Amaethyddiaeth
1. Gosodir y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn o dan Reol Sefydlog (“RhS”) 29.2. Mae RhS29 yn rhagnodi bod rhaid gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac y caniateir cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad hwnnw, os yw Bil Seneddol y DU yn gwneud darpariaeth o ran Cymru at unrhyw ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, neu sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.
2. Cyflwynwyd y Bil Amaethyddiaeth (y “Bil”) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 12 Medi 2018. Gellir gweld y Bil yn:
Bill documents - Agriculture Bill 2017-19 – UK Parliament
Amcan(ion) Polisi
3. Yr Amcanion polisi a nodir gan Lywodraeth y DU yw darparu system newydd, ar gyfer Lloegr, o dalu “arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus” i ffermwyr – sef yn bennaf eu gwaith i wella a gwarchod yr amgylchedd – a dirwyn i ben y Taliadau Uniongyrchol o dan reolau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).
Crynodeb o’r Bil
4. Noddir y Bil gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
5. Mae darpariaethau allweddol y Bil yn darparu’r fframwaith cyfreithiol i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin (PAC) a sefydlu system newydd, yn Lloegr, yn seiliedig ar arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ffermwyr a rheolwyr tir.
6. Yn ogystal, ar gais Llywodraeth Cymru, mae’r Bil yn darparu pwerau ar gyfer Gweinidogion Cymru.
Darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad ar eu cyfer
7.
Mae cymal 26 yn rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol
wneud Rheoliadau ynghylch sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn
cydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan Gytundeb
Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth. Gall y Rheoliadau hyn
gynnwys darpariaeth ynghylch dosbarthiad cymorth domestig at
ddibenion y Cytundeb ar Amaethyddiaeth; darpariaeth ynghylch
lefelau’r cymorth domestig; a darpariaeth sy’n ei
gwneud yn ofynnol i awdurdodau datganoledig ddarparu gwybodaeth
i’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae Llywodraeth Cymru
o’r farn bod angen cydsyniad ar gyfer darpariaethau cymal 26
oherwydd eu bod yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru gan eu bod yn ymwneud ag amaethyddiaeth ac
ufuddhau i rwymedigaethau rhyngwladol a gweithredu’r
rhwymedigaethau hynny, sef y Cytundeb ar Amaethyddiaeth.
8. Mae cymal 27 yn cyflwyno Atodlen 3 o’r Bil sy’n gwneud darpariaeth o ran Cymru. Mae Atodlen 3 o’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sy’n debyg, yn fras, i’r pwerau hynny a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Rhannau 1-5 o’r Bil. Nid yw Atodlen 3 yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru sy’n cyfateb i bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan gymal 21 (pŵer i atgynhyrchu addasiadau o dan adran 20 ar gyfer y sector gwin), ac nid yw ychwaith yn cynnwys darpariaeth ynghylch pwerau i addasu cynlluniau cymorth i sefydliadau cynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yng Nghymru, oherwydd nid oes unrhyw sefydliadau o’r fath yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Atodlen 3 yn cynnwys dibenion ychwanegol y caniateir i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol iddynt, a cheir nifer fach o wahaniaethau technegol i adlewyrchu’r taliadau ailddosbarthu a wneir o dan gynllun y taliad sylfaenol yng Nghymru.
Atodlen 3,
Rhan 1: Pwerau newydd o ran cymorth ariannol.
Mae Rhan 1 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol newydd i gynlluniau yn y dyfodol. Mae pwerau ychwanegol i Weinidogion Cymru yn eu galluogi i roi cymorth ariannol ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, chynorthwyo busnesau neu gymunedau mewn ardaloedd gwledig a chefnogi pobl sy’n ymwneud â chynhyrchu, prosesu, marchnata neu ddosbarthu cynhyrchion sy’n deillio o weithgarwch amaethyddol, garddwriaethol neu goedwigaeth.
Atodlen 3,
Rhan 2: Cymorth ariannol ar ôl ymadael â’r
UE.
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwerau Gweinidogion Cymru, ar ôl ymadael â’r UE, i addasu cyfraith yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro taliadau i ffermwyr.
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod pontio amaethyddol i Gymru y gellir ei ymestyn drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Atodlen 3,
Rhan 3: Casglu a rhannu data
Mae Rhan 3 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gasglu data o’r rheini o fewn y gadwyn gyflenwi bwyd amaeth, neu o’r rheini sydd â chysylltiad agos â’r gadwyn honno, a rhannu’r data hynny. Er enghraifft, bydd y data a gesglir ac a rennir o dan y darpariaethau hyn yn helpu ffermwyr a chynhyrchwyr i gynyddu cynhyrchiant, yn helpu cynhyrchwyr i reoli risgiau ac anwadalrwydd y farchnad a chynorthwyo o ran iechyd ac olrheinadwyedd anifeiliaid a phlanhigion.
Atodlen 3,
Rhan 4: Ymyrryd yn y Marchnadoedd Amaethyddol
Mae Rhan 4 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddatgan cyfnod o amodau eithriadol yn y farchnad, ac, yn ystod y cyfnod y mae’r datganiad yn cael effaith, i roi cymorth ariannol, neu i gytuno i roi cymorth ariannol, i gefnogi cynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru y mae’r amodau eithriadol yn y farchnad a ddisgrifir yn y datganiad yn cael effaith andwyol ar eu hincymau, neu’n debygol o gael effaith o’r fath. Mae Rhan 4 hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud y defnydd hwnnw y maent yn ystyried yn briodol o unrhyw bwerau sydd ar gael o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n darparu ar gyfer gweithredu ymyrraeth gyhoeddus a chymorth i systemau storio preifat mewn ymateb i’r datganiad.
Atodlen 3,
Rhan 5: Safonau marchnata a dosbarthu carcasau
Bydd Rhan 5 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau, drwy reoliadau, sy’n ymwneud â safonau marchnata ar gyfer cynhyrchion a farchnetir yng Nghymru a dosbarthu carcarsau gan ladd-dai yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i ddiwygio neu ddirymu’r safonau marchnata cyfredol a’r rheolau dosbarthu carcasau cyfredol fel y’u nodir yn neddfwriaeth yr UE a ddargedwir ac mewn deddfwriaeth ddomestig, yn ogystal â’r hyblygrwydd i gyflwyno safonau a rheolau newydd a gaiff eu teilwra i fod yn addas ar gyfer y sectorau amaethyddol domestig.
Y Casgliadau ynghylch Cydsyniad Cymal 27 ac Atodlen 3
9. Mae angen cydsyniad ar gyfer yr holl ddarpariaethau yng nghymal 27 ac Atodlen 3 oherwydd eu bod yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl gan eu bod yn ymwneud ag amaethyddiaeth ac ufuddhau i rwymedigaethau rhyngwladol a gweithredu’r rhwymedigaethau hynny.
Darpariaethau Terfynol
10.Mae Rhan 9
o’r Bil yn darparu ar gyfer mathau penodol o ddarpariaethau
atodol y gellid eu gwneud mewn rheoliadau a wneir o dan y
Bil.
11.Mae cymal 29 (1),
(3), (4), (5), (6)(b), (7)(b), (8) a (9) yn gymwys o ran Cymru ac
yn nodi sut y gellir arfer y pwerau i wneud rheoliadau a roddir i
Weinidogion Cymru o dan y Bil.
12.Mae cymal 30 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r Bil.
13.Mae cymal 31 yn
cyflwyno Atodlen 5 i’r Bil sy’n gwneud darpariaeth i
ddiwygio Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor
dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin
ar gyfer y marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol.
14.Mae cymal 32 yn
gwneud darpariaeth i roi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol,
drwy reoliadau, i wneud diwygiadau (a fyddai’n ddarpariaethau
canlyniadol, darpariaethau atodol, darpariaethau trosiannol,
darpariaethau darfodol neu ddarpariaethau arbed mewn cysylltiad ag
unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Bil) i ddeddfwriaeth
sylfaenol, deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir neu
is-ddeddfwriaeth.
15.Mae cymal 34 yn
gwneud darpariaeth ynghylch rhychwant cymalau yn y Bil, a rhychwant
yr Atodlenni iddo, i gynnwys y cymalau a’r Atodlenni
sy’n gymwys o ran Cymru.
16.Mae cymal 35 yn
gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn cymalau yn y Bil, a’r
Atodlenni iddo, i gynnwys y cymalau a’r Atodlenni sy’n
gymwys o ran Cymru.
17.Mae cymal 36 yn gwneud darpariaeth ynghylch enw byr y Bil, sef yr enw a ddefnyddir i gyfeirio ato mewn deddfwriaeth arall.
18.Mae Llywodraeth
Cymru o’r farn bod angen cydsyniad ar gyfer darpariaethau
cymalau 29, 30, 31, 32, 34, 35 a 36 o’r Bil, ac Atodlen 5
iddo, gan eu bod yn ymwneud â Chymru, ac yn gymwys o ran
Cymru, oherwydd eu bod yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan eu bod yn ymwneud ag
amaethyddiaeth ac ufuddhau i rwymedigaethau rhyngwladol a
gweithredu’r rhwymedigaethau hynny.
Pwerau i lunio is-ddeddfwriaeth
19.Yn Atodlen 3,
rhoddir nifer o bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion
Cymru. Nodir y pwerau hyn, ynghyd â’r
gweithdrefnau deddfwriaethol perthnasol, yn yr Atodiad i’r
Memorandwm hwn. Mae i ‘gweithdrefn penderfyniad
cadarnhaol’ a ‘gweithdrefn penderfyniad negyddol’
yr un ystyr ag a roddir i ‘affirmative resolution
procedure’ a ‘negative resolution procedure’ yng
nghymalau 29(6)(b) a (7)(b) o’r Bil yn y drefn honno gan fod
yr ymadroddion hynny yn gymwys i is-ddeddfwriaeth a wneir gan
Weinidogion Cymru o dan y Bil.
Rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn ar gyfer Cymru yn y Bil Amaethyddiaeth
20. Bwriedir i’r pwerau sy’n cael eu cymryd ar gyfer Gweinidogion Cymru fod yn rhai trosiannol, hyd nes y gellir cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol, i gynllunio system ‘A Wnaed yng Nghymru’ sy’n gweithio ar gyfer amaethyddiaeth Cymru, diwydiannau gwledig a’n cymunedau. Mae angen y pwerau hynny er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i wneud taliadau i reolwyr tir, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, busnesau gwledig eraill a sefydliadau gwledig eraill yng Nghymru o dan y cynlluniau PAC Colofn 1 a Cholofn 2 cyfredol o 2020, er mwyn gwneud newidiadau i’r cynlluniau cyfredol a hwyluso’r cyfnod pontio. Ein bwriad yw cyflwyno Bil Amaethyddiaeth Cymru yn ystod y tymor hwn.
21.Mae’r Bil yn darparu sylfaen gyfreithiol i gefnogi ffermwyr yn y dyfodol, ar ôl Brexit, wrth inni ymadael â’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae’r darpariaethau a geisir ar gyfer Gweinidogion Cymru yn adlewyrchu’r cyfleoedd a nodwyd ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth yn y dyfodol sy’n destun ymgynghoriad a nodir yn y Papur Gwyrdd ‘Brexit a’n Tir - Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru’. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 30 Hydref. Bydd yr ymgynghoriad hwn a gwaith parhaus i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn arwain at Bapur Gwyn gyda chynigion manwl penodol ar gyfer ymgynghori yn ystod y gwanwyn 2019. Bydd manylion y cynlluniau newydd i ddiwygio rheoli tir yn dibynnu ar ganlyniad penderfyniadau polisi a phenderfyniadau gweithredol na ellir eu cymryd tan ar ôl dadansoddi canlyniadau’r Papur Gwyrdd a’r Papur Gwyn.
22.Ceir cryn ansicrwydd ynghylch cydberthynas y DU â’r UE a gweddill y byd yn y dyfodol, a sut orau i gefnogi busnesau i gystadlu yn fyd-eang. Mae angen inni gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol nawr er mwyn ein galluogi i ymateb yn gyflym unwaith y gwneir y penderfyniadau hynny. Mae’r Bil yn darparu pwerau galluogi i Weinidogion Cymru. Ni wneir unrhyw benderfyniadau o ran sut y defnyddir y pwerau hyn hyd nes y gwyddys beth fydd cydberthynas y DU â’r UE a gweddill y byd yn y dyfodol a hyd nes bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben. Drwy gynnwys darpariaethau ym Mil Amaethyddiaeth y DU nawr, ni fydd Cymru yn cael ei chyfyngu wrth greu cynlluniau newydd a bydd yn gallu gweithredu yr hyn sydd orau i Gymru.
23.Er bod Llywodraeth Cymru ar y cyfan yn cefnogi’r Bil fel y mae wedi’i ddrafftio, mae dau fater sydd heb eu datrys yn foddhaol o hyd sy’n ymwneud â Chytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth a’r Ardoll Cig Coch. Bydd gwaith pellach i ddatrys ein pryderon yn parhau yn ystod hynt y Bil drwy Senedd y DU, a chyflwynir Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar yr adeg briodol pe bai angen.
Goblygiadau ariannol
24.Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad o ganlyniad i gymryd y pwerau yn y Bil hwn.
Casgliad
25.Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn briodol ymdrin â’r darpariaethau hyn yn y Bil DU hwn gan ei fod yn gam pwysig ymlaen a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr yng Nghymru ar ôl Brexit. Bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio hyd nes i Fil Amaethyddiaeth Cymru gael ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Lesley Griffiths AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Hydref 2018
Yr Atodiad
MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL: Y BIL AMAETHYDDIAETH - DARPARIAETHAU SY’N CYNNWYS PWERAU I WEINIDOGION CYMRU WNEUD IS-DDEDDFWRIAETH
Paragraff o Atodlen 3
|
Disgrifiad o’r Pŵer |
Y weithdrefn ddeddfwriaethol |
2(7) |
Pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu berson arall gyhoeddi gwybodaeth benodedig ynghylch cymorth ariannol a roddwyd o dan Baragraff 1 o Atodlen 3, neu i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â hynny. |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
3(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer gwirio, gorfodi a monitro cydymffurfiaeth pan fo cymorth ariannol i’w roi, neu wedi ei roi, o dan Baragraff 1 o Atodlen 3, neu i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â hynny |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
5(2) |
Pwerau i Weinidogion Cymru ymestyn drwy reoliadau y cyfnod pontio amaethyddol i Gymru a nodir ym Mharagraff 5(1) o Atodlen 3 |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
6(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth sy’n llywodraethu’r cynllun taliad sylfaenol |
Y weithdrefn penderfyniad negyddol |
7(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, y naill neu’r llall, neu’r ddau, o’r canlynol - dirwyn i ben taliadau uniongyrchol o dan y cynllun taliad sylfaenol o ran Cymru dros y cyfnod pontio amaethyddol cyfan i Gymru, neu ran o’r cyfnod hwnnw, neu derfynu taliadau uniongyrchol o dan y cynllun hwnnw o ran Chymru, ac yn hytrach gwneud taliadau datgysylltiedig o ran Cymru mewn cysylltiad â’r cyfnod pontio amaethyddol cyfan i Gymru, neu ran o’r cyfnod hwnnw. |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
9(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru addasu drwy reoliadau ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin a’r is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno. |
Y weithdrefn penderfyniad negyddol |
10(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru addasu drwy reoliadau ddeddfwriaeth uniongyrchol y UE a ddargedwir sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig ac is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno |
Y weithdrefn penderfyniad negyddol |
11(2) |
Pwerau i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n rhan o gadwyn gyflenwi bwyd amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person sy’n gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y cyflawnir y gweithgareddau hynny yng Nghymru. |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
15(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer gorfodi gofyniad a osodir o dan baragraff 11(1) neu (2) o Atodlen 3 (cadwyni cyflenwi bwyd amaeth: gofyniad i ddarparu gwybodaeth) |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
18(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru addasu drwy reoliadau ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrryd yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat at ddibenion newid gweithrediad darpariaethau’r ddeddfwriaeth honno, i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru mewn cysylltiad ag amodau eithriadol yn y farchnad sy’n destun datganiad o dan baragraff 16 o Atodlen 3 (datganiad sy’n ymwneud ag amodau eithriadol yn y farchnad) |
Y weithdrefn penderfyniad negyddol |
18(2) |
Pwerau i Weinidogion Cymru addasu drwy reoliadau ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrryd yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat at ddibenion penodedig |
Y weithdrefn penderfyniad negyddol |
19(1) |
Pwerau i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â chynhyrchion sy’n dod o fewn sector penodedig ac a farchnetir yng Nghymru, wneud darpariaethau drwy reoliadau ynghylch y safonau y mae’n rhaid i’r cynhyrchion hynny gydymffurfio â hwy |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
19(3) |
Pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch dosbarthu, adnabod a chyflwyno carcasau buchol, carcasau moch a charcasau defaid gan ladd-dai yng Nghymru |
Y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol |
20(2) |
Pwerau i Weinidogion Cymru ddiwygio drwy reoliadau y rhestr o sectorau amaethyddol ym mharagraff 20(1) o Atodlen 3 i ychwanegu neu ddileu sector, ac i nodi cynhyrchion sy’n dod o fewn pob sector, neu fel arall i roi manylion pellach am y sectorau |
Y weithdrefn penderfyniad negyddol |